Amdanom ni

Asiantaeth gynhyrchu a marchnata integredig lawn yw greenfield, wedi ei lleoli yng Nghaerdydd.

Rydym yn darparu gwasanaeth marchnata cyfunol ac atebion creadigol ar draws y cyfryngau teledu, y we, cyfryngau print a chyfryngau marchnata symudol.

Ein hymagwedd

Rydym yn dîm o unigolion talentog gyda phrofiad ac arbenigedd mewn llu o gefndiroedd yn ymwneud â’r cyfryngau. Rydym yn treulio amser yn dod i ddeall eich busnes cyn awgrymu ateb creadigol a fydd yn sicrhau ymgyrch effeithiol.

Mae pob cwsmer yn cael ei reolwr cyfrif penodedig ei hun er mwyn sicrhau parhad a chysondeb y gwaith ar draws pob cyfrwng.

Gallwn weithio gydag unrhyw gyllideb, ar sail prosiectau unigol neu fel yr asiantaeth farchnata o’ch dewis.